Dychmygu Iaith (e-bog) af Hopwood, Mererid
Hopwood, Mererid (forfatter)

Dychmygu Iaith e-bog

90,41 DKK (inkl. moms 113,01 DKK)
Mae astudiaethau niferus wedi archwilio delweddaeth beirdd drwy ac mewn iaith, hynny yw, y modd y defnyddiant iaith i greu delweddau, ond nid felly’r ddelweddaeth am iaith ei hunan. Nod y llyfr hwn yw craffu ar sut y mae casgliad o feirdd o bob cwr o’r byd wedi dychmygu a delweddu iaith, a hynny er mwyn ceisio goleuni newydd ar y cwestiwn hynafol: ‘Beth yw iaith?’Gan mai yng nghyd-destun dathlu...
E-bog 90,41 DKK
Forfattere Hopwood, Mererid (forfatter)
Udgivet 15 juli 2022
Længde 136 sider
Genrer 1DBK
Sprog Welsh
Format pdf
Beskyttelse LCP
ISBN 9781786839206

Mae astudiaethau niferus wedi archwilio delweddaeth beirdd drwy ac mewn iaith, hynny yw, y modd y defnyddiant iaith i greu delweddau, ond nid felly’r ddelweddaeth am iaith ei hunan. Nod y llyfr hwn yw craffu ar sut y mae casgliad o feirdd o bob cwr o’r byd wedi dychmygu a delweddu iaith, a hynny er mwyn ceisio goleuni newydd ar y cwestiwn hynafol: ‘Beth yw iaith?’

Gan mai yng nghyd-destun dathlu canmlwyddiant Gwasg Prifysgol Cymru yr ysgogwyd y llyfr, dewiswyd y testun gan ei fod yn gydnaws â dau o brif themâu cyhoeddiadau’r Wasg. Ar y naill law, mae'n dyfnhau ein dealltwriaeth o ddiwylliant ac iaith unigryw Cymru, ac ar y llall ehangu ein gwerthfawrogiad o ddiwylliant Ewrop a’r byd.

Mewn cyfuniad unigryw sy’n cwmpasu esiamplau o gerddi mewn ieithoedd dan fygythiad a rhai prif ffrwd, dyma lyfr sy’n ein hannog i ystyried o’r newydd gyfrwng yr ydym yn ei ddefnyddio’n feunyddiol.