Y Dychymyg Ôl-Fodern (e-bog) af Marks, Rhiannon
Marks, Rhiannon (forfatter)

Y Dychymyg Ôl-Fodern e-bog

150,55 DKK (inkl. moms 188,19 DKK)
Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy’n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw’r astudiaeth estynedig gyntaf o’i waith, a rhoddir sylw penodol i’r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i’r afael â phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, m...
E-bog 150,55 DKK
Forfattere Marks, Rhiannon (forfatter)
Udgivet 1 august 2020
Længde 208 sider
Genrer 1DBK
Sprog Welsh
Format epub
Beskyttelse LCP
ISBN 9781786835925

Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy’n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw’r astudiaeth estynedig gyntaf o’i waith, a rhoddir sylw penodol i’r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i’r afael â phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddocâd i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw â thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.