Y Gymru Ddu ar Ddalen Wen (e-bog) af Sheppard, Lisa
Sheppard, Lisa (forfatter)

Y Gymru Ddu ar Ddalen Wen e-bog

63,40 DKK (inkl. moms 79,25 DKK)
Dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Mae’n astudiaeth gymharol sy’n dod â gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd – gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Mae’n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi de...
E-bog 63,40 DKK
Forfattere Sheppard, Lisa (forfatter)
Udgivet 15 juni 2018
Længde 256 sider
Genrer 1DBK
Sprog Welsh
Format epub
Beskyttelse LCP
ISBN 9781786831996

Dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Mae’n astudiaeth gymharol sy’n dod â gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd – gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Mae’n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne. Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am ‘aralledd’ – term sy’n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i’r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol. Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd â themâu megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma’r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol – cymdeithas lle y mae’r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir â seilio hunaniaeth Gymreig ar allu’r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae’r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.