Castell Caerfyrddin e-bog
113,25 DKK
(inkl. moms 141,56 DKK)
Castell Caerfyrddin oedd un o’r cestyll mwyaf yng Nghymru’r Oesoedd Canol, yn ogytal ag un o’r pwysicaf oherwydd ei swyddogaeth fel canolfan llywodraeth ac fel eiddo’r Goron mewn ardal o diroedd Cymreig ac arglwyddiaethau’r Mers. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o’r castell yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cyn ei ailddatblygu yn gyntaf fel carchar ac yna’n bencadlys i’r awdurdod lleol. Eto, mae’r adf...
E-bog
113,25 DKK
Forlag
University of Wales Press
Udgivet
10 juni 2014
Længde
475 sider
Genrer
1DBKW
Sprog
Welsh
Format
epub
Beskyttelse
LCP
ISBN
9781783162048
Castell Caerfyrddin oedd un o’r cestyll mwyaf yng Nghymru’r Oesoedd Canol, yn ogytal ag un o’r pwysicaf oherwydd ei swyddogaeth fel canolfan llywodraeth ac fel eiddo’r Goron mewn ardal o diroedd Cymreig ac arglwyddiaethau’r Mers. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o’r castell yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cyn ei ailddatblygu yn gyntaf fel carchar ac yna’n bencadlys i’r awdurdod lleol. Eto, mae’r adfeilion a’u lleoliad yn hynod drawiadol. Rhwng 1993 a 2006, bwriwyd ati gyda rhaglen sylweddol o waith archeolegol ac ymchwil, gwaith a ddisgrifir mewn manylder yn y llyfr hwn. Archwilir hanes y castell yn ogystal, ynghyd â’i effaith ar yr ardal ac ar Gymru gyfan. Cawn ddarlun o swyddogion a thrigolion y castell, eu gweithgareddau, a’u hymadwaith gyda’r amgylchfyd. Disgrifir y cloddfeydd yn y castell a’r creiriau a ganfyddwyd, ynghyd â’r potensial archeolegol sy’n parhau. Mae’r llyfr hwn yn gosod Castell Caerfyrddin ym myw hanes Cymru’r Oesoedd Canol, gan roi iddo’i briod le ym maes ehangach astudiaethau cestyll a hanes pensaernïol, i gyflwyno astudiaeth sy’n gyfraniad sylweddol i hanes un o drefi mawr Cymru.