Henry Richard e-bog
48,96 DKK
(inkl. moms 61,20 DKK)
Bron nad aeth enw Henry Richard yn angof erbyn heddiw, eto yn ail hanner y 19eg ganrif ef oedd Cymro enwocaf ei gyfnod, a’i enw’n adnabyddus â pharch iddo ymhlith gwleidyddion ledled Ewrop a’r Unol Daleithiau. Dyma’r gyfrol gyflawn gyntaf ers dros canrif i’w hysgrifennu yn y Gymraeg am Henry Richard (1812–88), yr heddychwr a’r gwladgarwr o Dregaron. Rhoddodd Henry Richard ei stamp ar y mudiad h...
E-bog
48,96 DKK
Forlag
University of Wales Press
Udgivet
15 november 2013
Genrer
1DBKW
Sprog
Welsh
Format
epub
Beskyttelse
LCP
ISBN
9781783162918
Bron nad aeth enw Henry Richard yn angof erbyn heddiw, eto yn ail hanner y 19eg ganrif ef oedd Cymro enwocaf ei gyfnod, a’i enw’n adnabyddus â pharch iddo ymhlith gwleidyddion ledled Ewrop a’r Unol Daleithiau. Dyma’r gyfrol gyflawn gyntaf ers dros canrif i’w hysgrifennu yn y Gymraeg am Henry Richard (1812–88), yr heddychwr a’r gwladgarwr o Dregaron. Rhoddodd Henry Richard ei stamp ar y mudiad heddwch ym Mhrydain, a chofir amdano fel amddiffynnwr y Cymry yn wyneb ymosodiadau diwylliannol – megis adroddiad y ‘Llyfrau Gleision’ ar addysg yng Nghymru yn 1847 – a dylanwad yr Eglwys Anglicanaidd. Bu’n ysgrifennydd ar y Gymdeithas Heddwch am yn agos i ddeugain mlynedd, gan ddod i amlygrwydd rhyngwladol fel lladmerydd y mudiad heddwch, ac fel ymgyrchydd dros gyflafareddu a diarfogi. Yn dilyn ei ethol yn aelod seneddol dros Ferthyr ac Aberdâr yn 1868, ef yn anad neb a adwaenid fel ‘Yr Aelod Dros Gymru’, a chwaraeodd ran amlwg yn natblygiad addysg yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu colegau prifysgol Aberystwyth a Chaerdydd.