John Morris-Jones e-bog
63,40 DKK
(inkl. moms 79,25 DKK)
Arferai John Morris-Jones, yn ôl Gwenogvryn Evans un o’i gyfoeswyr, gyfeirio at y Deyrnas Unedig ac Iwerddon fel ‘Anglesey and the adjacent islands’ fel na raid amau cryfder ei ymlyniad wrth ei filltir sgwâr. Yn Nhrefor, Llandrygarn, yn sir Fôn y’i ganed er i’r teulu symud oddi yno i Lanfair Pwllgwyngyll o fewn rhyw dair blynedd ac yno y bu am weddill ei oes. Aeth yn y man i Ysgol Friars ym Man...
E-bog
63,40 DKK
Forlag
University of Wales Press
Udgivet
15 december 2011
Genrer
Literary studies: c 1900 to c 2000
Sprog
Welsh
Format
epub
Beskyttelse
LCP
ISBN
9781783162680
Arferai John Morris-Jones, yn ôl Gwenogvryn Evans un o’i gyfoeswyr, gyfeirio at y Deyrnas Unedig ac Iwerddon fel ‘Anglesey and the adjacent islands’ fel na raid amau cryfder ei ymlyniad wrth ei filltir sgwâr. Yn Nhrefor, Llandrygarn, yn sir Fôn y’i ganed er i’r teulu symud oddi yno i Lanfair Pwllgwyngyll o fewn rhyw dair blynedd ac yno y bu am weddill ei oes. Aeth yn y man i Ysgol Friars ym Mangor ac wedi hynny i Goleg Aberhonddu yng nghwmni nifer o’i gyd-ddisgyblion a’r prifathro, y Parchg. D. Lewis Lloyd. Profodd ei hun yn ddisgybl disglair mewn Mathemateg gan ennill ysgoloriaeth i Rydychen yn 1883 lle bu’n astudio am radd yn ei ddewis bwnc. Ond wedi graddio ei ddymuniad oedd ffarwelio â Mathemateg am iddo ers tro ymddiddori mewn astudiaethau ieithyddol dan ddylanwad Athro Celteg Prifysgol Rhydychen, Syr John Rhŷs. Ar ôl cyfnod o waith ymchwil yn y Gymraeg dan gyfarwyddyd Rhŷs, penodwyd John Morris-Jones yn ddarlithydd ac, ymhen amser, yn Athro yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Bangor. Cydnabyddir fod iddo ran allweddol yn y dadeni llenyddol a welwyd yng Nghymru ym mlynyddoed cynnar yr ugeinfed ganrif. Cyplysir ei enw ag un O.M. Edwards, y ddau’n ffigurau amlwg yn hanes y dadeni hwnnw ar ôl bod yn gyd-fyfyrwyr yn Rhydychen a chael eu hysbrydoli drwy gyfrwng cyfeillach ffrwythlon â chyfoedion yno dan arweiniad Syr John Rhŷs. Fel ymgyrchwr gallai ymddangos yn bur ymosodol ei agwedd. Ac eto, ceisir dangos fod cryn wahaniaeth rhwng ei ddelwedd gyhoeddus a’r hyn a wyddom am John Morris-Jones y gŵr a’r tad, yr ymgomiwr diddan a’r gwestai croesawgar ar ei aelwyd ei hun. Wrth ymdrin â’r wedd bersonol ar ei bersonoliaeth, manteisiwyd ar y dystioaeth a welir mewn gwahanol gyfresi o lythyrau a ddaeth i’r amlwg yn weddol ddiweddar, llythyrau na dderbyniodd hyd yma ryw lawer o sylw. Y gobaith yw y bydd y fath gyfuniad o dystiolaeth yn creu darlun mwy cyflawn o un o ffigurau amlwg ei gyfnod yng Nghymru.